Hafan » Mwynhau » Cyfleusterau
Pan ddewch chi i Barc Cenedlaethol, rhan annatod o’r profiad yw’r dirwedd a’r heddwch, ac mae hyn yn golygu bod cyfleusterau yn gallu bod yn gyfyngedig yn yr ardaloedd mwy anghysbell. Ond, yma yn Sir Benfro, mae yna amrywiaeth dda o’r cyfleusterau y gallai fod eu hangen arnoch i fwynhau diwrnod allan ar Lwybr yr Arfordir neu i fyny yn y bryniau.
Bysiau
Hyd yn oed os nad ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer, hoffwn eich annog chi i adael eich car gartref a theithio i’r Parc ar y bws pan fydd hynny’n bosib.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r Cyngor Sir a phartneriaid eraill i ddarparu bysiau arfordirol ychwanegol trwy Lonydd Glas. Hyd yn oed os ydych yn gyrru i’r arfordir ac yn cerdded ar Lwybr yr Arfordir efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd ar y bws am ran o’ch diwrnod. Felly, beth am deithio ar y bws i’r pen pellaf a cherdded yn ôl i’r car! Ond wrth gwrs, cofiwch edrych ar yr amserlenni yn gyntaf.
Meysydd parcio
Map o’r Meysydd Parcio
Mae gan y rhan fwyaf o lefydd yr ydych am ymweld â nhw gyfleusterau parcio ceir, ond efallai eu bod nhw’n rhy fach yn ystod y diwrnodau prysuraf trwy gydol tymor brig yr haf (rheswm da arall dros ddal y bws!). Dydyn ni ddim am adeiladu meysydd parcio newydd a fydd, efallai, ond yn cael eu defnyddio am ychydig o ddiwrnodau’r flwyddyn, ac felly dyma reswm gwell eto dros ddefnyddio’r bws ar adegau prysur. Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Cyngor Sir sy’n dueddol o reoli’r meysydd parcio, ac mae yna ambell gyfleuster sy’n eiddo preifat neu’n eiddo i’r gymuned leol hefyd. I weld y lleoliadau a gwybodaeth sylfaenol, porwch drwy’r dudalen ar gyfleusterau.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli tua 40 o feysydd parcio ac ardaloedd parcio; rydyn ni’n codi tâlar ddeg o’r rhain ac yn defnyddio’r incwm i’n helpu ni i gynnal a chadw’r meysydd parcio a’r llwybrau yn y Parc. Mae tocyn tymor ar gael ar gyfer meysydd parcio’r Parc Cenedlaethol, os anfonwch chi gais trwy e-bost at info@pembrokeshirecoast.org.uk.Mewn rhai ardaloedd, mae’r awdurdod yn berchen ar y blaenlaniad a’r twyni yn ogystal â’r maes parcio. Yn aml, mae’r rhain yn ardaloedd poblogaidd iawn oherwydd eu harddwch naturiol ac mae angen bod yn ystyriol wrth eu defnyddio, felly cofiwch beidio â gwersylla na gadael sbwriel os gwelwch yn dda. Gadewch ddim ond olion eich traed!
Toiledau
Mae yna nifer fawr o doiledau cyhoeddusyn Sir Benfro, ond mae’n werth sicrhau bod toiled yn agos at eich cyrchfan os yw hwn yn fater pwysig i chi. Yn gyffredinol, y Cyngor Sir sy’n rheoli’r toiledau. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, efallai y bydd cyfleusterau sy’n dueddol o gael llai o ddefnydd dros y gaeaf ar gau o fis Hydref.
Llithrfeydd
Map o’r Llithrfeydd
Ar lawer o’r traethau yn Sir Benfro mae yna rampiau mynediad, ond yn aml maen nhw’n arwain at ardaloedd o dywod gweddol feddal. Mae’r amodau’n amrywio’n sylweddol o un traeth i’r nesaf, a byddai’n ddoeth gwrando ar gyngor lleol ynghylch y defnydd ohonynt.
Rhowch glic ar wefan Mwynhau Sir Benfro i gael gwybodaeth ar draethau a chwaraeon dŵr. Mae’r rhan fwyaf o’r porthladdoedd yn cael eu rhedeg gan y Cyngor Sir, er enghraifft Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun, neu gymdeithasau lleol, ac maen nhw’n codi tâl bach am lansio, sy’n helpu gyda chostau rheoli lleol. Ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau, mae yna nifer o lithrfeydd a phwyntiau mynediad. Rhowch glic ar wefan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau am fanylion pellach.